Ailosod pontydd ger Porth Penrhyn ar Lôn Las Ogwen

Diweddariad cymunedol o'ch ardal

Share
Ailosod pontydd ger Porth Penrhyn ar Lôn Las Ogwen

EDRYCH NEWYDD: (Ch-D) Y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd; Iwan ap Trefor o Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd; Cynghorydd Nigel Pickavance, aelod lleol, yn ystod y gwaith adnewyddu

Mae gwaith sylweddol i ailosod dwy bont ar lwybr poblogaidd Lôn Las Ogwen sy’n cysylltu ardal Porth Penrhyn, Bangor gyda Dyffryn Ogwen wedi ei gwblhau, gyda’r llwybr arferol wedi ailagor i aelodau’r cyhoedd. Fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i annog pobl i gerdded a beicio ar gyfer teithiau bob dydd, mae’r gwaith yma i ailosod pontydd yn rhan o ymdrechion i sicrhau fod llwybrau presennol yn cyfarch anghenion trigolion ac hefyd gwella mynediad pobl i’r tirwedd llechi sydd wedi ei ddynodi yn Safle Treftadaeth y Byd ers 2021.

Roedd yr hen bontydd ger Porth Penrhyn wedi gweld dyddiau gwell ac angen gwaith cynnal a chadw cyson. Roedd y strwythur hefyd yn golygu fod hi’n anodd iawn i gerddwyr a beicwyr basio ei gilydd oherwydd y llwybr cul ar y bont, ond bellach, mae’r llwybr wedi ei ledu ac mae’r llwybr ar draws y bontydd yn llawer gwell i ddefnyddwyr.

Mae’r cynllun, wedi golygu dargyfeirio rhan o drywydd llwybr Lon Las Ogwen tra roedd gwaith ar y bontydd yn bwrw ymlaen, ond gyda’r gwaith ar y bontydd wedi gorffen, mae’r llwybr gwreiddiol bellach ar agor i’r cyhoedd.

CYN Y GWAITH: Yr hen bontydd ger Porth Penrhyn cyn y gwaith adnewyddu

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Mae hwn yn lwybr pwysig iawn, sy’n cynnig modd teithio cynaliadwy hwylus i gerddwyr a beicwyr rhwng Bangor a Dyffryn Ogwen, boed hynny ar gyfer daith hamdden, i gyrraedd y gwaith, apwyntiad neu i siopa. Wrth gwrs, mae’r llwybr yn dilyn olion y rheilffordd hanesyddol oedd yn cysylltu’r porthladd a Chwarel y Penrhyn ac mae hanes pwysig i’r cyswllt yma rhwng Bangor a Bethesda a’r tirwedd llechi ehangach, ac mae’n braf iawn gweld cynlluniau sy’n rhoi bywyd newydd i ran yma o’r llwybr.

“Rwy’n falch iawn o weld y gwaith yn dirwyn i ben ar y wedd yma o’r gwelliannau a fydd yn ei gwneud y daith ar droed neu ar feic yn fwy cyfforddus i drigolion yr ardal yma. Mewn amser o heriau ariannol, mae’n sicrhau cyllid i wireddu cynlluniau o’r math yma i’w croesawu’n fawr, a diolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm a’r gwaith.

“Wrth wella safon y llwybr, rydan ni’n gobeithio y bydd mwy o bobl yn gwneud y mwyaf o’r llwybr wrth i ni geisio torri lawr ar deithiau di-angen mewn cerbydau lle bynnag mae hynny’n bosib. Fel rhan o’r cynllun Llewyrch o’r Llechi ehangach, bydd gwaith pellach i uwchraddio a gwella cysylltiadau ar gyfer llwybrau yn Nyffryn Ogwen yn cael eu cyflwyno dros y misoedd nesaf.”

AR ÔL Y GWAITH: Y pontydd ger Porth Penrhyn yn dilyn y gwaith adnewyddu

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Pickavance, un o’r aelodau lleol ar Gyngor Gwynedd a fu draw yn gweld y gwaith ar y bontydd yn ddiweddar: “Roeddwn i’n falch iawn o fynd draw i weld y gwaith yn bwrw ymlaen ar y bontydd newydd ar Lôn Las Ogwen a gweld y cynnydd sydd wedi bod ar y cynllun. Rwy’n falch iawn fod y ddwy bont yn ail-agor i ddefnydd cyhoeddus, gyda’r lle i ddefnyddwyr yn llawer lletach nag yn flaenorol.”

Cyllidwyd y gwaith ar y bontydd ger Porth Penrhyn gyda chefnogaeth o’r Gronfa Ffyniant Bro, grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a chefnogaeth gan Sustrans. Mae’n rhan o gynllun ehangach i wella cysylltiadau ar Lôn Las Ogwen sy’n cael ei gyllido o gronfa Ffyniant Bro.

Mae mwy o wybodaeth am brosiect ehangach Llewyrch o’r Llechi: Ffyniant Bro - rhaglen fuddsoddiad treftadaeth ddiwylliannol a ariennir gan Lywodraeth y DU, ac a weinyddir gan Gyngor Gwynedd - ar gael yma: Llewyrch o'r Llechi, Cronfa Ffyniant Bro (llyw.cymru)

Lleoliad: Porth Penrhyn, Bangor.