Gorsaf radio ysbyty ym Mangor yn rownd derfynol am y drydedd flwyddyn yn olynol
Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi derbyn un cydnabyddiaeth eleni ac yn gobeithio am un arall ym mis Tachwedd.
TRI CHYNNIG I GYMRO: Radio Ysbyty Gwynedd yn y rownd derfynol am y drydedd flwyddyn
(To read this article in English, click here)
Mae gorsaf radio ysbyty lleol Radio Ysbyty Gwynedd wedi cyrraedd rownd derfynol y Gwobrau Radio Cymunedol cenedlaethol blynyddol am y drydedd flwyddyn.
Cafodd yr orsaf o Fangor, Gwynedd, ei gynnwys ar y rhestr fer, a chwtogwyd i lawr o fwy na 400 o geisiadau gan orsafoedd o bob cornel o'r DU.
Mae Radio Ysbyty Gwynedd, a enillodd wobr ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y DU gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai yn ddiweddar wedi cael ei enwebu yn y categori 'Gorsaf Ddigidol neu RSL y Flwyddyn 2022' am eu gwaith yn
gwasanaethu cleifion Ysbyty Gwynedd ym Mangor a'r gymuned ehangach.
DARLLEN MWY
Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i’r orsaf gael ei henwebu ar gyfer y wobr genedlaethol hon. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu mewn seremoni yn Bedford ar Dachwedd 19. Bydd y seremoni'n dilyn y Gynhadledd Radio Cymunedol a drefnwyd gan Rwydwaith Radio Cymunedol y DU.
Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd: “Rydym i gyd yn falch iawn o fod wedi cyrraedd y rhestr fer yn y pum gorsaf radio orau ar draws y DU ar gyfer gwobr ‘Gorsaf Ddigidol neu RSL y Flwyddyn 2022’ yng ngwobrau mawreddog Radio Cymunedol 2022.
"Mae derbyn y gydnabyddiaeth genedlaethol hon am y drydedd flwyddyn yn
olynol yn hollol wych. Rydym yn datblygu fel gorsaf yn barhaus - gyda hyfforddiant rheolaidd, rydym yn parhau i recriwtio llawer o gyflwynwyr newydd ac wynebau enwog, yn ogystal â datblygu ein hamserlen raglennu.
"Wedi ennill ‘Gorsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ yn ddiweddar gan y Gymdeithas Ddarlledu Ysbytai, mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi derbyn adborth gwych gan feirniaid proffesiynol, sy’n amlwg i ba mor broffesiynol ac apelgar yw ein cynnwys i gleifion Ysbyty Gwynedd a’n gymuned ehangach”.
Dywedodd Martin Steers, Cadeirydd y Gwobrau: “Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych arall i Radio Cymunedol ledled y DU, gan ddifyrru, hysbysu ac ymgysylltu â chymunedau lleol, sef gwir ddiben gorsafoedd radio lleol.
"Mae wedi bod yn her fawr i’n beirniaid o bob rhan o’r diwydiant gan fod ansawdd y ceisiadau yn well nag erioed, sy’n brawf gwirioneddol i bopeth y mae gorsafoedd
Radio Cymunedol yn ei wneud yn eu hardaloedd. Rydym yn dymuno pob lwc i Radio Ysbyty Gwynedd ac yn edrych ymlaen at gynnal y seremoni yn Bedford y mis nesaf.”
Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi bod darlledu ers 1976 gan ddathlu 45 mlynedd llynedd. Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty.
Gall y gymuned ehangach wrando ar-lein ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.
Ysgrifennwyd gan Sarah Griffiths
DARLLEN MWY