Llysieyn sy'n fuddiol iawn i'r cof
Mae'r dduwies Groeg Aphrodite a'r Forwyn Fair ill dwy'n gysylltiedig gyda'r rhosmari.
PLANHIGYN AROMATIG: Mae gan rhosmari (Rosmarinus officinalis; Rosemary) nifer o ddefnyddiau, gan gynnwys coginio a meddyginiaeth
Mae hi wedi mynd i edrych yn weddol llwm yn yr ardd erbyn hyn ag eithrio ambell i rosyn neu dda, a diolch, felly, am lwyni fel y rhosmari sy’n dal i edrych yn dda hyd yn oed yr adeg hon o’r flwyddyn.
Mae’r enw rhosmari yn dod o’r enw Lladin rosmarinus, a chyfuniad ydi hwn o ddau air . Ystyr rosydi " gwlith" a marinus y “môr”. Felly “gwlith y môr” ydi’r rhosmari. Tlws yn dydi? Mae’n debyg mai un rheswm am hyn ydi ei fod yn tyfu mewn llecynnau sych ac mae’r cyfan sydd ei angen arno i fyw ydi ychydig o leithder sy’n cael ei gario ar y gwynt o’r môr.
Mae ‘na chwedl sy’n dweud fod “gwlith y môr” wedi’i lapio am Aphrodite pan wnaeth hi godi o’r môr ac erbyn heddiw mae Aphrodite a’r Forwyn Fair i’ll dwy yn cael eu cysylltu â’r rhosmari. Mae’n debyg fod y Forwyn Fair wedi taenu ei chlogyn dros rosmari oedd â blodau gwyn arno pan oedd hi’n cysgu, ac yn ôl y chwedl, fe wnaeth y blodau droi’n las, sef y lliw a gysylltir yn bennaf â’r Forwyn Fair.
DARLLEN MWY
Arogl rhosmari ydi un o’r pethau cyntaf sy’n tynnu’ch sylw chi. Mae’n arogl aromatig, cryf ac maen tyfu fel llwyn coediog gyda dail bythwyrdd, hir a main sy’n edrych yn ddigon tebyg i nodwyddau. Dydi’r rhosmari ddim yn frodorol i Ynysoedd Prydain ond mae ei gartref mewn gwledydd ar lannau Môr y Canoldir.
Mae’n aelod o deulu’r mintys, y Lamiaceae, ac mae’r dail, naill ai’n ffres neu wedi eu sychu wedi’u defnyddio i goginio. Mae’n debyg eich bod yn eithaf cyfarwydd â thatws rhost hefo mymryn o ddail rhosmari wedi eu ysgeintio arnyn nhw, neu cig oen wedi’i rostio hefo’r dail, ac maen nhw’n aml yn cael eu defnyddio hefo cigoedd wrth gael barbeciw.
Mae ‘na lawer o haearn, calsiwm a Fitamin B6 mewn rhosmari ac mi fedrwch chi hefyd wneud te hefo’r dail. Mae un astudiaeth wedi dangos fod yna asid carnosic mewn rhosmari, all ddiogelu’r ymennydd rhag radicalau rhydd, ac felly’n gostwng y risg o gael strôc a Chlefyd Alzheimer.
Dŵr Hwngari ydi’r enw ar drwyth sy’n cael ei wneud hefo rhosmari ac sydd i fod yn dda at drin braich neu goes wedi’i pharlysu ac i drin y gymalwst. Mae ‘na gred mai hen fynach wnaeth hwn yn gyntaf i Frenhines Hwngari, rywbryd yn y Canol Oesoedd, ac mae dyna sut y cafodd o’r enw Dŵr Hwngari. Nid bod ‘na lawer o ddŵr ynddo fo! Yr hyn rydych ei angen ydi dail rhosmari ffres, ac o bosib ychydig o ddail gruw a’u distyllu hefo brandi cryf.
Yn draddodiadol mae rhosmari i fod yn dda at wella cof ac mae un astudiaeth fodern i weld yn cadarnhau hyn. Mewn arbrawf roedd arogl rhosmari wedi ei bwmpio i mewn i stafell ble roedd pobl yn gweithio ac mae’n debyg fod eu cof wedi gwella. Rhaid i mi drio cofio arogli rhosmari bob dydd.
Yn y Canol Oesoedd, roedd y briodasferch yn gwisgo rhosmari ar ei phen , ac roedd y priodfab a’r holl wahoddedigion i gyd i fod i wisgo sbrigyn o rhosmari, ac o’r arfer hwn, mae debyg fod swyn cariad yn tarddu. Roedd cwpwl oedd newydd briodi yn plannu cangen o rosmari ar ddydd eu priodas, ac os oedd hwn yn ffynnu, yna roedd yn argoeli’n dda am y briodas ac am y teulu.
Roedd ‘na gred fod llwyn rhosmari yn yr ardd yn rhoi diogelwch i’r teulu ac os oedd y llwyni wedi’i dderbyn fel rhodd, yna roedd lwc dda yn siŵr o ddilyn. Roedd rhai pobl yn credu os oedd rhosmari yn cael ei dyfu mewn pot wrth y drws ei fod yn cadw gwrachod draw.
DARLLEN MWY
Cred gyffredin arall oedd hon: os oedd rhosmari yn tyfu’n dda mewn gardd, yna’r wraig oedd yn rheoli yn y cartref yna. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd y gred hon mor gryf fel bod dynion yn mynd ati’n fwriadol i godi llwyni ohono o’u gerddi i ddangos mai nhw, ac nid y wraig, oedd y bos!
Rydach chi’n ddigon cyfarwydd â’r hen bennill hon dwi’n siŵr:
“Ar lan y môr mae carreg wastad#
Lle bûm yn siarad gair â'm cariad
O amgylch hon fe dyf y lili
Ac ambell sbrigyn o rosmari”
Yr hyn sydd ymhlyg yn y gân ydi mai mynd i lawr at fedd mae pwy bynnag sy’n canu – dyna’r garreg wastad ac mae’n ddiddorol sylwi mai’r rhosmari (Rosmarinus officinalis;Rosemary) ydi un o’r planhigion sy’n cael ei enwi am ei fod yn un o’r blodau hynny sy’n cael ei ddefnyddio er cof am rywun. Ers talwm, roedd galarwyr yn arfer ei daflu i mewn i fedd fel symbol o goffadwriaeth, ac mae ‘na gyfeiriad at hyn yn Hamlet pan mae Ophelia yn dweud "There's rosemary, that's for remembrance”.
Wel, sut bynnag y byddwch chi’n defnyddio rhosmari, mwynhewch y planhigyn!
Ysgrifennwyd gan Bethan Jones
DARLLEN MWY