Mwynhau canu'r hen emynau o lyfr fy nhad
Roedd y melodica gyda'r sol-ffa yn waredigaeth i allu ail-fyw'r hen ddyddiau o ganu yn y capel.
HEN GANIADAU: Llyfr tad Angharad, gyda'r rhestr o emynau a thonau ar gyfer y gwasanaeth
Sut ydych chi o ran difaru gwneud pethau? Oes gennych chi restr faith, neu ydych chi'n derbyn nad oes modd gwneud popeth mewn bywyd?
Rydw i'n falch nad ydw i'n difaru llawer o bethau, ond un peth go fawr ydi peidio dyfalbarhau i ganu offeryn. Ces y cyfle, fel sawl plentyn arall, i gael gwersi piano, ond methiant llwyr ydoedd.
Wnes i ddim deall y peth cyntaf am gerddoriaeth, a'r unig beth a feistrolais oedd gallu llunio siâp 'treble clef'. Beth oedd ei ddiben, doedd gen i 'run syniad, mwy nag oedd gen i o unrhyw farc arall cerddorol. Gallaf ganu efo'r glust yn burion, ond ddealltais i rioed ddirgelion cofnodi nodau.
READ MORE
Tybiais y gallwn fynd drwy fywyd yn anwybodus o'r wyddor hon, ond rydw i wedi difaru sawl gwaith. Bu raid i mi fodloni ar organ geg er mwyn creu cerddoriaeth fy hun.
Wedi bod yn y Fleadh yn Iwerddon, bum ddigon ffôl i brynu ffidil, ac er i mi ddal ati, gan feddwl y byddwn rhyw ddydd mor alluog â'r 'Fiddler of Dooney', dyma weld cymaint o anfantais oedd methu darllen cerddoriaeth.
Beth amser cyn y Clo, rhai misoedd wedi marw 'Nhad, dyma hiraethu am 'yr hen ganiadau' a arferem eu canu yn ein capel oedd erbyn hynny wedi cau. 'Dydi byth yn rhy hwyr i ddysgu chwarae'r piano' meddyliais, a ches fenthyg piano bach gan fy chwaer.
Trio ngorau, ond yr un peth brofodd yn rhwystr amhosibl ei oresgyn oedd y nodau du felltigedig. Wedi blwyddyn, aeth y piano yn ôl, ac ron i'n pitïo cymaint.
Os ydych yn darllen y golofn hon yn rheolaidd, falle y cofiwch fy ngholofn ddwytha lle gwirionais mod i wedi darganfod caneuon Fflat Huw Puw, diolch i lyfr Cledwyn Jones. Yn y llyfr hwnnw, roedd Cledwyn wedi cynnwys y sol-ffa ar gyfer y caneuon. (Gyda llaw, os ydych eisiau gwybod mor bwysig oedd sol-ffa i ddatblygiad canu yn Nyffryn Nantlle a thu hwnt ddechrau'r G20, chewch chi ddim byd gwell na 'Fy Nhalysarn I' gan Cledwyn Jones.)
Wn i ddim lle ces i'r syniad, ond mi brynais 'Melodica'. Offeryn bach ysgafn ydi hwn efo piano arno, a pheipen i chwythu drwyddi. O'i chwythu, mae sŵn fel organ i'w gael. Mae'r sawl a'i dyfeisiodd yn deall fod yna greaduriaid fel fi yn anllythrennog yn gerddorol, felly mae'r 'do-re-mi' wedi ei nodi ar y nodau. Dyna fu fy ngwaredigaeth.
Canfyddais offeryn y gallwn ei ganu, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf, cefais bleser di-ben draw yn f'atgoffa o'r Hen Ganiadau.
READ MORE
Dewisodd fy Nhad bedair emyn ar gyfer pob Sul o'r flwyddyn, a'u nodi ar ddalen o bapur. Wele rif y dôn a rhif yr emyn – pedair i bob Sul. O gael llinell gyntaf yr emyn, naw gwaith allan o bob deg, mae gen i ryw syniad o'r dôn, neu o leiaf o'i hamseriad. A gyda chymorth y sol-ffa, gallaf ddwyn yr alaw yn ôl.
Dydi emynau fel hyn ddim mor boblogaidd ag y buont. Rhaid i chi fod dros eich hanner cant i'w cofio yn cael eu canu. Wnaiff rhai pobl ond eu canu mewn cymanfa, dywedant mai ofer yw eu canu gyda chynulleidfa fach.
Dydi hyn ddim yn wir. Gallwch eu canu efo cynulleidfa o un – a melodica. Yr unig anfantais, oherwydd fod rhaid chwythu'r melodica, fedra i ddim morio canu yr un pryd. Ond dyna fo, yr atgofion ddaw yn sgil yr alawon sy'n bwysig.
Ffolaf ar y geiriau, a'r delweddau dramatig, maent wedi ei serio ar fy nghof. 'Y gŵr wrth Ffynnon Jacob', neu 'Graig yr Oesoedd', mae gwefr ym mhrofiadau mawr yr emynwyr hyn. Caiff cymaint o emosiwn ei fynegi. Canu o brofiad y maent, ac o argyhoeddiad mawr.
READ MORE
Meddyliwch am yr effaith gaiff y geiriau hyn, o'u canu yn angerddol,
'Llechu wnaf yng Nghraig yr Oesoedd,/Deued dilyw, deued tân,/A phan chwalo'r greadigaeth,/Craig yr Oesoedd fydd fy nghân.'
Gall yr emynwyr roi llais i brofiadau na wyddem sut i'w mynegi fel arall. Mae ambell un yn wers ddiwinyddol ynddi ei hun, meddyliwch am emyn Gwilym Cyfeiliog, 'Caed trefn i faddau pechod..yn yr Iawn'. Hoffais hon er yn blentyn yn y gymanfa wrth glywed y pedwar llais yn creu deialog anhygoel,
'Cyfiawnder yn dweud 'Digon!'/A'r Tad yn gweiddi 'Bodlon!'/Yn yr Iawn;/A 'Diolch byth' medd Seion,/Am yr Iawn.'
Dro arall, dod a thymhorau i gof wna'r emynau, yn gynhaeaf, Calan, Pasg a'r Sulgwyn. Ond wrth fyseddu y dalennau mor denau ag adain gwybedyn, dwi'n rhyfeddu at freuder Llyfr Emynau fy nhad.
Daw â llun i mi ohono wrth y bwrdd ar nos Sadwrn, yn chwilio am y dôn i fynd drosti gan mai ef fu'n codi canu am y deugain mlynedd olaf o hanes y capel. Roedd yn ŵr oedd wrth ei fodd yn canu, ac yn gwerthfawrogi naws tôn a geiriau emyn oedd yn gweddu iddi. Ni fyddai dim yn rhoi mwy o bleser iddo yn ystod oedfa pan fyddai digon o hwyl ymysg yr hanner dwsin a ganai i ddyblu y bennill olaf.
Dyna pam ydw i'n gwerthfawrogi y melodica. Rhoddodd yr allwedd i rywun mor ddi-glem â mi i agor cyfrinachau'r Llyfr Emynau. Drwy gyfrwng sol-ffa, dwi wedi canfod dileit newydd yn chwarae'r Hen Ganiadau.
Am ryw ugain munud bob bore, caf ymroi i chwarae'r emynau hyn sy'n gymaint rhan o'm hetifeddiaeth. Boed yn Edmwnd Prys, yn Bantycelyn, yn Ann Griffiths, yn Ieuan Glan Geirionydd neu'n Rhys Nicholas, maent yn gwbl Gymreig ac yn mynegi ffydd mewn ffordd mor onest a didwyll. Taswn i wedi cael y ddawn i ganu'r Delyn Aur, fyddwn i ddim balchach!
Ysgrifennwyd gan Angharad Tomos