Taith i flynyddoedd a fu drwy hoff ganeuon plentyndod
O bryd i'w gilydd, byddai Mam yn dewis fy nghân arbennig i, cân am ferch o'r un enw oedd wrth ei bodd yn canu telyn a dawnsio.
CYFROL ARDDERCHOG: Ymweliad rhithiol i'r gorffennol drwy lyfr Cledwyn Jones
Faint fyddech chi yn ei dalu am daith rithiol yn ôl i'ch plentyndod? Ffortiwn mae'n siwr. Dyna'r profiad gefais i yn ddiweddar drwy gyfrwng llyfr ardderchog yr annwyl (a'r diweddar bellach) Cledwyn Jones, Talysarn, yr aelod olaf o Driawd y Coleg, 'Mi Wisga' i Gap Pig Gloyw'.
Wedi bod yn ymddiddori ym mywyd Angharad James, Gelli Ffrydiau, Nantlle, oeddwn i, a dyma fynd ar ôl un o'i disgynyddion, J Glyn Davies (Fflat Huw Puw) oedd yn ŵyr i'r chwedlonol John Jones, Talysarn. Ron i wedi darllen cofiant Heti Glyn Davies i'w gŵr, ond mae 'Mi Wisga' I Gap Pig Gloyw' yn cynnwys geiriau ei ganeuon, y sol-ffa, a'r hen nodiant. Ymysg y rhain y deuthum ar draws y gân, Clwt y Ddawns. 'Wel, wel', meddwn, 'dyna fi wedi canfod cân fy mhlentyndod, o'r diwedd'.
Pan oeddwn yn blentyn, Dad - yn ddeddfol bob nos - fyddai'n rhoi stori inni cyn cysgu. Ond ambell waith, ni fyddai Dad ar gael, a Mam fyddai'n cyflawni'r orchwyl o'n cael i gysgu. Fel mam brysur i bump o blant dan naw, ni fyddai Mam yn potsian efo stori, dim ond yn canu. Ac o bryd i'w gilydd, byddai Mam yn dewis fy nghân arbennig i, cân am ferch o'r un enw oedd wrth ei bodd yn canu telyn a dawnsio. Roedd yn gân mor hapus,
'Mae tinc y delyn ar Glwt y Ddawns, Clywch Angharad yn tiwnio,
Ffa – la – la – la – la- la la la la la la,
Doeddwn i ddim wedi ei chlywed ers blynyddoedd, ond roedd hi'n dal yno, ym mherfeddion y cof. Dychmygwch fy mhleser pan ddeuthum ar ei thraws yn llyfr Cledwyn Jones. Nid yn unig roedd y dôn yno, ond cefndir y gân hefyd. Yn ôl Cofiant John Jones, (oedd yn or-ŵyr i Angharad James), roedd gan Angharad delyn, a byddai wrth ei bodd cael y teulu, y morynion a'r gweision, i ddawnsio ar ddiwedd y dydd i gyfeiliant y delyn. Galwyd y tir yn Clwt y Ddawns.
DARLLEN MWY
Naturiol felly oedd i J Glyn Davies ganu'r gân. Medd Cledwyn Jones, 'cân hynod ganadwy a bywiog, ac yn llawn rhythm a symudiad'. Mae'r gân i'w gweld yn Fflat Huw Puw a Cherddi Eraill.
Fel pe na bai hynny yn ddigon o wefr, darllenais beth oedd gan Cledwyn Jones i'w ddweud am Caneuon Robin Goch, casgliad o ganeuon plant J Glyn Davies a bu bron i mi lewygu. Rhuthrodd holl atgofion fy mhlentyndod i mi, un ar ôl y llall, a'r un dewin oedd wedi eu cyfansoddi i gyd. Meddai Cledwyn,:
"Yn y gyfrol hon yn arbennig yr ymddengys ei wir athrylith, a gallwn ddweud yn bur hyderus nad oes neb na chynt na chwedyn wedi llwyddo i dreiddio mor llwyddiannus i feddwl plentyn bach, ac ennyn ynddo gymaint o frwdfrydedd, diddordeb a boddhad.'
Gwir pob gair. Er iddynt gael eu cyfansoddi ym 1914, gwyddwn eiriau pob un. Dyna chi 'Gwen a Mair ac Elin yn bwyta lot o bwdin' – merched J Glyn Davies oedd y rhain, gaiff eu crybwyll yn 'Gwen a Mair yn mynd i'r Ffair' hefyd. Beth am y ffefryn ym mhob Eisteddfod.
'Bwrw Glaw yn Sobr Iawn' ? Ia, fo a'i gwnaeth, neu 'Pwy Sy'n Dwad Dros y Bryn?' Mae hon yn dal i roi gwefr i mi. Meddai Cledwyn Jones, 'Rwy'n cofio eistedd ar lin Mam yn 20au'r ganrif ddiwethaf yn y bore bach, ychydig ddiwrnodiau cyn yr Ŵyl, a gwrando'n gegrwth arni'n canu'n ymbilgar i Sion Corn yn y simdde'.
Gan ei dad y clywodd J Glyn hon, a chlywsai ei dad ef hi yn Llŷn, felly mae hon yn perthyn i 1800 o leiaf. Ar dôn 'Ba Ba Black Sheep' y cenir 'Robin a'r Dryw' a pheth cyffredin gan J Glyn oedd menthyca alawon tramor o Ddenmarc, Sweden, Lloegr a Llydaw. O Ddenmarc y daw alawon 'Titw Bach yn Sâl' a 'Tŷ a Gardd', gwlad y byddai J Glyn Davies yn ymweld â hi yn aml, ac roedd yn siarad Daneg yn rhugl, ond o Chinatown, San Francisco y daw 'Dŵr a Sebon'! Mae'r cyfoeth yma yn ychwanegol i waddol Caneuon Fflat Huw Puw.
Diolch mod i wedi cael dysgu y rhain i gyd ar yr aelwyd gan fy mam, a dyma ddyfalu sut roedd hi mor gyfarwydd â hwy. Yr ateb yn ddi-au yw mai 'How-get' oedd hi, sef person o Fethesda a aned ym 1926. Sut daw Bethesda i'r stori?
Pennaeth y Gymraeg ym Mhrifysgol Lerpwl oedd J Glyn Davies ac un o'i fyfyrwyr disglair oedd Jennie Thomas, Penbedw,(1899-1979), creadwr Wil Cwac Cwac yn Llyfr Mawr y Plant. Pan yn ceisio am swydd fel athrawes, cysylltodd J Glyn Davies â chyn-ddisgybl iddo, J J Williams, Prifathro Ysgol y Cefnfaes, Bethesda. Ceisiodd Jennie Thomas am swydd Pennaeth Adran Babanod, ac fe'i cafodd yn un ar hugain oed ym 1921. Fel cyfaill i J O Williams (Llyfr Mawr y Plant), cyflwynodd Jennie Thomas J Glyn i J O, a dyna gychwyn cyfeillgarwch oes.
Wrth ymweld ag aelwyd ei hen athro, tra'n astudio MA, clywodd Jennie Thomas y caneuon plant a'i berswadio i drefnu caneuon i blant hŷn. Roedd Côr Plant enwog yn Ysgol Cefnfaes, a hwy a ganodd ganeuon 'Cerddi Huw Puw' am y tro cyntaf. Meddai Cledwyn Jones, 'Yr oedd y plant wrth eu bodd gyda rhythmau pendant a bywiogrwydd llawer o'r siantis, a'r symudiad a oedd ynghlwm wrthynt.' Y gŵr a ddilynodd J J Williams fel prifathro Ysgol Cefnfaes ym 1930 oedd fy nhaid, R E Hughes.
Mae J Glyn Davies yn diolch iddo am ei gydweithrediad. Fel disgybl yn Ysgol y Cefnfaes, does ryfedd fod Mam yn hen gyfarwydd â'r caneuon.
Gorffenais 'Mi Wisga' I Gap Pig Gloyw' ar Hydref 17 a chofnodi y manylion hyn i gyd i'w nodi mewn llythyr i Cledwyn Jones, ac i ddweud am y mwynhad rhyfeddol a gefais o ddarllen y llyfyr. Ddeuddydd yn ddiweddarach, clywais fod Cledwyn wedi marw ar Hydref y deunawfed, yn 99 oed.

Fis ynghynt, rown i wedi cael sgwrs ag o ar ei aelwyd ym Mangor, ac roedd mewn hwyliau da, a'i gof fel rasal. Dyna pryd y soniodd, yn wylaidd iawn, ei fod wedi sgwennu cyfrol ar J Glyn Davies. Chaf i byth fynegi fy niolchgarwch iddo am y gwaith, ond gallaf dalu teyrnged fechan iddo ar goedd fel hyn. Nid yn unig am y gyfrol hon, ond am gofnodi hanes Talysarn, ac am ddod â phleser i filoedd o Gymru drwy ei lais swynol a'i natur ddiymhongar, annwyl.
Ysgrifennwyd gan Angharad Tomos
DARLLEN NESAF
- Gwreiddiau teuluol canwr opera'n cysylltu dwy ddinas o'r enw Bangor
- All the help available if you're struggling to pay your energy bills
- Daily Cuppa and Quiz: November 4, 2022