Trafferthion gyda'r cyflenwad trydan
Cyrhaeddodd generadur ar gyfer fy nhŷ i a fy rhieni – a bingo! Trydan. Ges i baned. Ond doedd y wifi ddim yn gweithio
PARTI PRIODAS: Wedi trefnu ers wythnosau i fynd i'r Bala i weld y ddrama, a mwynhau'n fawr (Llun: Aled Llywelyn/Theatr Genedlaethol Cymru)
Ysgrifennwyd gan Bethan Gwanas
O flaen y cyfrifiadur o’n i, yn meddwl tybed be i sgwennu colofn amdano tro ’ma, pan ddiflanodd bob dim. Roedd y trydan wedi diffodd am ryw reswm. Trio cofio lle mae’r trip switches, ond dim byd o’i le yn fanno. Cerdded draw at dŷ fy rhieni, lle roedd Dad yn eistedd yn y tywyllwch. O hec... ac roedd Mam wedi cael gwybod bod y gwersyllwyr yn cwyno am fod dim trydan yn fan’no chwaith.
Crwydro i gael signal ar fy ffôn symudol er mwyn ffonio Scottish Power, neu’r robot sy’n gweithio iddyn nhw, oedd ddim yn dallt fy llais neu fy acen pan ro’n i’n trio yngan yn glir be oedd ein côd post. Ers pryd mae ‘four-zero’ yn swnio fel ‘forty two’? ‘Be ydi rhif eich cyfrif?’ Wel, taswn i’n mynd i’r tŷ i chwilio am y rhif, mi faswn i’n colli signal. ‘Be am fynd ar ein gwefan?’ Efo un bar?!
Ges i siarad efo person go iawn yn y diwedd, a doedd o’n gweld dim byd o’i le yn ein hardal ni. Wel, dwi isio reportio bod na rywbeth o’i le fan hyn os gwelwch yn dda. Ges i wybod y baswn i’n cael galwad neu decst yn ôl unwaith roedden nhw’n gwybod rhywbeth.
Cyn hir, ges i neges yn deud bod nam yn ardal côd post LL40 ac y byddai’r trydan yn ei ôl erbyn 11.15. Felly mewn i’r fan â fi i rannu’r newyddion da efo pawb oedd yn y gwersyll. ‘O, diolch byth,’ meddai un o’r bobol statics, ‘mae’n ben-blwydd arna i fory ac mae gen i lond rhewgell o gigiach at y barbeciw.’
Wedyn ges i neges yn deud mai 2.00 fyddai hi. Rownd pawb yn rhannu’r neges eto a’i roi ar y dudalen Facebook. A sgwennu arwydd yn egluro’r sefyllfa a deud dim trydan = dim cawodydd poeth, sori. Ond roedd hi’n fore Gwener, a heb drydan do’n i methu deud os oedd ’na bobl newydd wedi archebu lle i wersylla.
Lawr â fi i’r dre i ateb ebyst. A chael neges bod y peirianwyr yn cael trafferth dod o hyd i’r nam ac y gallai fod yn 9.00 y nos. O, asiffeta. Nôl â fi i’r gwersyll a chyfarfod peirianwyr oedd eisiau gwybod os oedden ni am gael generaduron achos mi allai fynd yn hanner nos. Oes! Iawn, roedden nhw ar eu ffordd o Warrington.
Warrington?! Fe allai fod yn waeth, fe allen nhw ddod o Glasgow am wn i.
Ro’n i fod i ddarllen nofel oedd wedi ei hebostio i mi, ond ar fy ffôn? Dim peryg, gyfaill. Wrth lwc, daeth y posmon â pharsel i mi – copi o nofel newydd i blant – Anturiaethau’r Brenin Arthur gan Rebecca Thomas. Mwynhau’n arw, ac roedd hi’n hen bryd i ardal Bannau Brycheiniog gael sylw mewn llyfrau plant.
Cyrhaeddodd generadur ar gyfer fy nhŷ i a fy rhieni – a bingo! Trydan. Ges i baned. Ond doedd y wifi ddim yn gweithio. Ffonio’r cwmni oedd newydd roi’r system satellite newydd i mewn (dim gobaith am linell ffeibr BT i ni...stori hir). Oedd ’na ryw fotwm ro’n i fod i’w bwyso? Nac oedd. A dyma sylweddoli mai yn y gwersyll oedd y prif hwb/signal/be bynnag ond doedd y generadur mawr ar gyfer fanno ddim wedi cyrraedd nag oedd! Do, mi wnes i regi chydig.
Fy chwaer oedd yn y gwersyll gyda’r nos achos ro’n i wedi trefnu ers wythnosau mod i’n mynd i’r Bala i weld drama ‘Parti Priodas’, felly ei job hi oedd delio efo’r diffyg trydan o hynny ymlaen – a chofio bod y dŵr poeth yn diffodd yn awtomatig heb drydan a bod angen gwasgu botwm bob boilar yn unigol wedi i’r cyflenwad ddod yn ôl. Ges i wybod yn ddiweddarach bod un boilar styfnig yn gwrthod dod mlaen (mae o wedi bod yn un od erioed – wastad un does?), felly roedd y dŵr yn oer, a doedd neb yn gallu gwneud dim – nes i Mam gyrraedd. Elsie ‘Red Adair’ Mair fydd hi o hyn ymlaen.
Yn y cyfamser, ro’n i’n cael modd i fyw yn Theatr Derek Williams. Do’n i’m wedi bod yn siŵr be i’w ddisgwyl achos fethes i weld y ddrama yn y Steddod, ond nefi, mi wnes i chwerthin, a chael fy nghyffwrdd. Ro’n i wedi dotio cymaint at sgript clyfar Gruffudd Owen, mi brynais gopi ohoni. Ro’n i wedi bod yn amenio, gwingo a nodio mhen gymaint drwyddi.
Y ffrogiau morynion sy jest ddim yn siwtio ambell un ohonyn nhw; y ‘Chi fydd nesa...’ (mae hynny’n stopio wedi’r 45-50 ’ma); bwrdd ciami “y sbarions”, yr areithiau uniaith Saesneg gan bobl fyddai gymaint mwy huawdl yn Gymraeg; ffrindiau’n adrodd cerddi symol; y gerdd briodas honno sydd wedi cael ei hadrodd mewn cymaint o wasanaethau priodas, rydan ni gyd yn ei gwybod ar ein cof bellach, a “*&%$ twmpath dawns”!
Bydd darllenwyr selog y golofn hon yn cofio nad yw dawnsio gwerin yn un o fy hoff bethau i, wedi’r holl flynyddoedd o artaith pur yn nhwmpathau Glan-llyn.
Roedd Ffion a fi wedi bod yn aros am Naomi fy nith tu mewn yr adeilad, a hithau’n aros amdanon ni tu allan, felly erbyn mynd mewn i’r theatr, dim ond tair sedd reit yn y blaen – yn y canol, oedd ar ôl i ni. Ond duwcs, roedd ’na fwy o le i’r coesau, ac roedd o fel bod yn y briodas go iawn, felly roedden ni reit falch – tan y diwedd un, pan oedden nhw’n dawnsio eto, ac mi gydiodd Mark yr actor o Gricieth yn fy llaw i yndo... AAAAAA!